top of page

Music

SERA

SERA, sef sillafiad Cymraeg 'Sarah' oedd fi'n deud wrth y byd fy mod i yma ac yn gwneud cerddoriaeth (mor beiddgar roeddwn i nes i sgwennu'r cyfan mewn priflythrennau!) O tua 2014 nes i ryddhau cerddoriaeth dan yr enw yma, yn bennaf gyda grwp o gerddorion oedd hefyd yn chwarae yn fyw gyda mi. 2 albwm, 1 albwm wedi'i ail-rhyddhau a 2 EP a phrofiadau di-ri. Pop gwerin/Americana oedd yn adrodd straeon.

​

Gallwch wrando ar SPOTIFY i'r holl caneuon neu brynu CD go iawn o BANDCAMP

hupdoPuc_400x400.jpeg

Blodyn

Mae Jenn Morris yn feiolinydd a chantores hyfryd. Dwi wedi nabod hi ers dros ddeng mlynedd a da ni wedi chwarae llawer o gigs gyda'n gilydd mewn band ond hefyd jest y ddau ohonom ni. Buom yn ysgrifennu ychydig o alawon gwerin gyda'n gilydd cyn i'r plant cael ei geni, a galw ein hunain yn 'Blodyn' ac yna ddim chwarae gyda'n gilydd am nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi dechrau chwarae'r alawon eto yn ddiweddar ac ysgrifennu rhai newydd. Ein bwriad yw eu recordio nhw eleni.

​

Dyma hen glip ohonof i a Jenn (gyda Dei Elfryn) yn chwarae gyda'n gilydd ar YOUTUBE

35741630_1768504129929816_528175183773564928_n.jpeg

Tapestri

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i mi oedd ffurfio Tapestri. Cariad at gerddoriaeth Americana ac angen prosiect newydd i ganolbwyntio ar. Fe wnaethon ni ryddhau un albwm yn 2023.

​

Ffurfiwyd Tapestri ar ôl i Lowri Evans a minnau gyfarfod yn Festival Interceltique de Lorient yn haf 2019 tra roedd y ddau ohonom yn perfformio fel artistiaid unigol ym Mhafiliwn Cymru.


Roedden ni mor awyddus i ffurfio band dwyieithog gyda merched ar y blaen, a dyna wnaethon ni. Focus Wales, Between the Trees, Sesiwn Fawr Dolgellau, Noson Lawen, Global Music Match, prif lwyfan Gŵyl Werin Caergrawnt a Settlers Pass yn Greenman. Ar y rhestri chwarae ac wedi ennill dilyniant cynyddol, yn anffodus fe wnaethom wahanu ym mis Mai 2023.
 

​

331512824_1234401270616902_4305624065567048817_n.jpeg

Sarah Louise

Sarah Louise / Sarah Louise Owen. Fy recordiau cyntaf a dod o hyd i fy llais.

tumblr_lwkbhqF8KN1r0i2a8o1_1280.jpeg

Eve & Sera

Ar ôl cael ein dewis ar gyfer datblygiad Artist Gorwelion y BBC yn 2019 ynghyd â fy ffrind (o CEG Records) Eve Goodman, fe benderfynon ni dreulio diwrnod gyda’n gilydd yn ysgrifennu caneuon. Trodd hyn yn gyflym i fod yn brosiect gwerin Cymraeg a ysbrydolwyd gan 'Spellsongs', yn ailymweld â geiriau Cymraeg a geir ym myd natur. 4 blynedd wedyn a 10 cân wedi'u hysgrifennu, rydym o'r diwedd wedi penderfynu mynd i mewn i'r stiwdio a recordio'r albwm. Methu aros i'w rannu yn hwyrach yn 2024. Mae'n prydferth!

​

GWRANDO ar 'Gaeafgwsg' 

IMG_9512.jpg

High Grade Grooves

Cydweithrediadau Electronig gyda label ENDAF High Grade Grooves. Rhoi benthyg fy llais, geiriau a llinellau alawon i gynhyrchwyr gwych

ab67616d0000b2735afbbf3b6c5e6a84d3757a15.jpeg
bottom of page